|
Mae’n edrych fel petai mis Gorffennaf am fod yn un prysur iawn i bawb sy’n ymwneud â Draig Ffynci! Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhwng 15fed - 17eg Gorffennaf lle mae pobl ifanc yn cael y cyfle i gwrdd â Gweinidogion a siarad efo nhw am bethau sy’n effeithio arnyn nhw. Dyma ddigwyddiad mwya’r flwyddyn ac edrychwn ymlaen at dy weld yno! Gwna’n siwr dy fod yn darllen y cylchlythyr nesa i gael gwybod beth ddigwyddodd. |
|
|

|
Dyfodol Diwastraff i Gymru?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n anelu at greu “Dyfodol Diwastraff” ar gyfer Cymru trwy lunio cynllun sy’n dechrau o nawr hyd 2050. Clicia yma i gael gwybod mwy am y cynllun a sut alli di helpu i wneud Cymru’n Ddiwastraff.
|
|

|
Fideos o’r Pwyllgor Rheoli
Mae gan Draig Ffynci Bwyllgor Rheoli sy’n cynnwys 8 o bobl ifanc a 4 gweithiwr proffesiynol sy’n edrych ar ôl ochr busnes Draig Ffynci. Cymera olwg ar rhai o’r fideos a wnaed i roi darlun i bobl o fyd y Pwyllgor Rheoli …
|
|

|
Ymddygiad a Phresenoldeb: Cynllun Gweithredu yn Ymateb i’r Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Hadolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb ym mis Mai 2008. Nodir ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r argymhellion hyn yn y cynllun gweithredu ‘Ymddygiad a Phresenoldeb’ a lansiwyd ar 30 Mawrth 2009
www.wales.gov.uk/learningproviders I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cynghorau Ysgol a gwefan y Ddraig Ffynci yn ystod y flwyddyn ysgol newydd.
|
|
|

|
Mae gan Gymru a Phobl Ifanc Dalent!
Mae Draig Ffynci’n lwcus iawn i gael gwirfoddolwr o’r enw Lynda Dix sy’n rhoi ei hamser i ysgrifennu erthyglau ar gyfer ein gwefan. Darllena rhai o’i erthyglau diweddaraf hi am y dalent sydd yna yng Nghymru.
|
|
|

|
GwirVol - Cynllun Grant Rhyngwladol Gwirfoddoli Ieuenctid
Nod GwirVol, sef Cynllun Grant Rhyngwladol ar gyfer Gwirfoddoli Ieuenctid yw cefnogi cyfleoedd i bobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig a lleiafrifol yng Nghymru i wirfoddoli’n rhyngwladol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gorffennaf 20fed, felly’n gwna’n siwr nad wyt ti’n colli’r cyfle gwych yma!
|
|

|
A hoffech ganfod beth mae Aelodau’r Cynulliad neu gynghorwyr lleol yn ei wneud?
A hoffech wella eich gwybodaeth, dysgu sgiliau newydd a chwarae mwy o ran yn eich cymuned leol?
Os hoffech, pam na wnewch gais i gymryd rhan mewn cynllun mentora / cysgodi newydd cyffrous sy’n rhoi cyfle i bobl ledled Cymru weithio’n agos gyda naill ai Aelod Cynulliad neu gynghorydd ar o leiaf 10 achlysur. Mae’r cynllun yn rhedeg o fis Hydref 2009 i fis Ebrill 2010.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Adam.Rees@wales.gsi.gov.uk 029 2089 8178
|
|
|

|
Cynhadledd Cyfranogiad Ieuenctid yn Gweithredu
Bydd y Gynhadledd Cyfranogiad Ieuenctid yn Gweithredu yng Ngholeg yr Iwerydd, Llanilltud Fawr, o 26 Gorffennaf tan 31 Gorffennaf. Pwrpas y gynhadledd yw rhannu arferion o ran cyfranogiad pobl ifanc, yn unol ag Erthygl 12 Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), drwy strwythurau a systemau llywodraethu ar draws 11 rhanbarth yn Ewrop. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y gynhadledd ac i wylio fideo byr wedi’i wneud gan bobl ifanc yn mynychu’r gynhadledd.
|
|
Am fwy o wybodaeth cer i www.draigffynci.org
Mae'r rhifyn yma o Gylchlythyr Draig Ffynci wedi'i anfon allan yn Gymraeg a Saesneg,
|
|
am ragor o wybodaeth ewch i www.draigffynci.org
|