Ble ydw i?: hafan > esf > Hawliau'n Oes Ni

Hawliau'n Oes Ni

 

Hawliau'n Oes Ni

· Ysgrifennu adroddiad pobl ifanc i’w gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig pan fydd y Llywodraeth yn gwneud ei phumed cyflwyniad i CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn) yn 2011. Llunnir yr adroddiad hwn mewn ymgynghoriad a grŵp llywio o bobl ifanc, a bydd yn defnyddio dulliau cyfranogol i gael gwybodaeth gan bobl ifanc yng Nghymru. Bydd pobl ifanc sy’n gweithio fel rhan o’r grŵp llywio’n ennill sgiliau gwaith tîm, ymchwil, ymgynghori, cyfathrebu, cyflwyno, llythrennedd, rhifedd, dadansoddi data ac ati. Byddant hefyd yn cael cynnig achrediad amrywiol sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar eu cyfer - ee. OCN mewn ymchwil cyfranogol