Hyfforddiant cyfranogiad ar gyfer fforymau ieuenctid awdurdodau lleol
- Datblygu hyfforddiant cyfranogiad yn unol â’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol er mwyn sefydlu dulliau cydlynol cenedlaethol
- Darparu hyfforddiant cyfranogiad achrededig ar gyfer fforymau ardaloedd cydgyfeirio. Cynnig digwyddiadau diwrnod cyfan neu fin nos i gynyddu gwybodaeth pobl ifanc ynghylch; hanes cyfranogiad, buddiannau cyfranogiad o ran datblygu sgiliau a chael gwaith yn y dyfodol, y strwythurau presennol, syniadau ynghylch cynrychiolaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau
- Datblygu gwefan Draig Ffynci ymhellach i’w gwneud hi’n adnodd sy’n fwy o ysgogiad gweledol i bobl ifanc - bydd yn cynnwys mwy o fideos am gyfranogiad ac enghreifftiau o arfer da gan fforymau ieuenctid, yn ogystal â chyfweliadau gydag Aelodau Cynulliad, Gweinidogion ac aelodau’r Prif Gyngor.
- Darparu cyfleoedd i gyfranogi ar lefel genedlaethol ar Brif Gyngor Draig Ffynci, gan ganolbwyntio’n arbennig ar grwpiau anodd eu cyrraedd sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd. Bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw drafod eu materion gyda’r llywodraeth. Nid oes gennym waith sydd wedi’i anelu’n benodol at grwpiau ynysig yn gymdeithasol/anodd eu cyrraedd ar hyn o bryd - felly mae hyn ar ben y gwaith presennol
- Gweithio gyda fforymau ieuenctid awdurdodau lleol i ddatblygu dwy thema bob blwyddyn y bydd pawb yn gweithio arnynt am gyfnod o 12 mis, gan ddatblygu agenda ar gyfer Cymru gyfan y gall pobl ifanc ganolbwyntio arni.
