Dinasyddiaeth Weithgar

 

Gweithdai’n ymwneud â thema Dinasyddiaeth Weithgar Fframwaith ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol) 2008

  • Cynllunio a chreu 8 o weithdai ar destunau’n amrywio o CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn) i gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Cyflwyno’r hyfforddiant yma i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 a 4 mewn ysgolion ar draws yr ardaloedd Cydgyfeirio gan ddefnyddio nifer o ddulliau blaengar a chynaliadwy (yn cynnwys addysg cyfoedion)
  • Cynlluniwyd y gweithdai hyn i gyflenwi’r canlyniadau addysgol a ddymunir o’r fframwaith ABCh ac i annog sgiliau megis trafod, gwaith tîm a datrys problemau, sy’n hanfodol ar gyfer y gweithle modern
  • Hyrwyddo cyfranogiad o fewn addysg trwy gynnal gweithdai gyda phobl ifanc

Beth sydd gennym i’w gynnig?

Mae Draig Ffynci wedi creu rhaglen o 8 gweithdai sy’n addas i Gyfnodau Allweddol 3 – 5, ar y thema ‘dinasyddiaeth weithgar’. Mae pob gweithdy’n gwneud defnydd o ddulliau cyfranogol ac ymgysylltiol er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc yn mwynhau ac yn dysgu i’r eithaf. Maent yn cynnwys y cyfle i astudio ar lefel unigol ac mewn grwpiau bach.

Cynlluniwyd pob gweithdy i bara am oddeutu awr, er y gellir eu haddasu i siwtio anghenion pob grŵp. Gellir cyflwyno detholiad o weithdai i grŵp, i siwtio’u hanghenion penodol; a byddem yn falch o drafod unrhyw ofynion penodol sydd gennych.

Datblygwyd dwy uned OCN (lefelau 1 a 2) i achredu’r gwaith yma, os dymunir. Noder bod y rhain yn opsiynol a chodir tâl gweinyddol (fesul dysgwr) ar y rhan fwyaf o grwpiau. Holwch os ydych am gael mwy o wybodaeth.

Cynlluniwyd y gweithdai i gwrdd â gofynion nifer o gwricwla presennol, a nod y ddogfen hon yw manylu ar y ffordd mae pob gweithdy’n ymwneud â’r canlynol:

Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru

Bagloriaeth Cymru

Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a

Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)

Yn ogystal â’r gweithdai hyn gallwn ddarparu amryw o sesiynau gwahanol, gan ddefnyddio nifer o ddulliau creadigol (e.e. prosiectau fideo/ffotograffiaeth). Rydym yn hapus i drafod opsiynau addas ar gyfer ysgolion a grwpiau gwahanol, felly mae croeso ichi gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.

 

 

Manylion Cyswllt

Os ydych chi’n meddwl y gallai’r gwaith hwn fod o ddiddordeb i chi, neu os hoffech gael mwy o fanylion, mae croeso ichi gysylltu â ni i drafod eich gofynion penodol. Mae staff Draig Ffynci’n gweithio ymhob cwr o Gymru, ac mae ganddynt swyddfeydd yn y mannau canlynol:

Gogledd a Chanolbarth Cymru:

Draig Ffynci
22 Stryd yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LR

Ffôn: 01978 262370


De Cymru:

Draig Ffynci
Swyddfeydd Llawr 1af
8 Sgwâr y Castell
Abertawe
SA1 1DW

Ffôn: 01792 450000

Neu gallwch e-bostio:
enquiries@funkydragon.org