Mae dros 1.2 biliwn o bobl yn byw ar lai na $1 y dydd - ac eto ‘dyw’r byd erioed wedi bod mor llewyrchus. Mae gan y byd ddigon o arian, adnoddau a thechnoleg i ddileu tlodi am byth. Felly pam fod yna bobl ar draws y byd o hyd sy’n gorfod byw mewn tlodi?
Dileu tlodi erbyn 2015. Dyma’r addewid hanesyddol a wnaed gan 189 o arweinwyr y byd yng Nghynhadledd Mileniwm y Cenhedloedd Unedig yn 2000 pan gytunon nhw i gwrdd â Nodau Datblygu’r Mileniwm (NDM). Mae NDM yn fap ffordd sy’n cynnwys wyth o bwyntiau gyda thargedau mesuradwy a therfynau amser clir ar gyfer gwella bywydau pobl dlotaf y byd. Mae arweinwyr y byd wedi cytuno i gyflawni’r Nodau Datblygu erbyn 2015.
Mae’r Nodau’n rhai y gellir eu cyflawni; mae ganddynt linellau amser a therfynau amser; maent wedi’u diffinio ar lefel leol ac maent yn fesuradwy. Am y tro cyntaf, mae yna gytundeb byd-eang lle mae gwledydd tlawd a chyfoethog yn cydnabod eu bod yn rhannu’r cyfrifoldeb dros ddileu tlodi a’r hyn sy’n ei achosi yn y lle cyntaf.
Mae Nodau Datblygu’r Mileniwm fel a ganlyn:
- Dileu Newyn
- Addysg Fyd-eang
- Cyfartaledd Rhywiol
- Iechyd Plant
- Iechyd Mamau
- Brwydro yn erbyn HIV/AIDS
- Cynaladwyedd Amgylcheddol
- Partneriaeth Fyd-eang
Mae pobl enwog wedi defnyddio eu statws a’u lleisiau i gefnogi NDM – o Shakira i Lenny Kravits a Michael Douglas. Bydd yn un o’r bobl hynny – eleni bydd yn un o’r miliynau sy’n sefyll i fyny ac yn lleisio barn. Eleni, gadewch inni dorri Record y Byd, a thorri’r record o addewidion gwag.
Y llynedd, safodd 23.5 miliwn o bobl i fyny dros dlodi. Safon nhw i atgoffa eu llywodraethau i gadw eu haddewidion. Yr addewidion y gwnaethon nhw saith mlynedd yn ôl gyda Nodau Datblygu’r Mileniwm.
Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr bod yr arweinwyr yn gweithredu ar yr ymrwymiadau hyn. Mae Ymgyrch Mileniwm y Cenhedloedd Unedig yn cefnogi ac yn ysbrydoli pobl o bob rhan o’r byd i weithredu er mwyn cefnogi Nodau Datblygu’r Mileniwm. Ymuna ag Ymgyrch Mileniwm y CU a bod yn rhan o’r genhedlaeth fydd yn dileu tlodi. Clicia ar y linc isod er mwyn mynd i’r wefan ‘Dileu Tlodi’ a chanfod sut alli di fod yn rhan o hanes.
Linciau Defnyddiol
Bydd pob dolen yn ddangos mewn ffenest pop-up.
