Prif amcanion CLIC
- Sefydlu CLIC fel y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol cydnabyddedig a diduedd i bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed.
- Bod yn flaengar ac yn arloesol wrth ddatblygu a gweithredu gwasanaethau gwell i gleientiaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
- Adeiladu'r gwasanaeth ar y cyd â phobl ifanc a phartneriaid strategol er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth a'i gwneud yn hygyrch i bawb.
- Darparu hyfforddiant achrededig mewn gwaith gwybodaeth sylfaenol gyda phobl ifanc.
- Darparu gwybodaeth leol gywir a chyfredol ar wefan CLIC i bobl ifanc yn ardal eu hawdurdod lleol.
- Cefnogi a gweithio gydag Ymestyn Hawliau a Chyfranogiad gyda Phobl Ifanc yng Nghymru.
