Diwrnod y Gymanwlad

 

Diwrnod y Gymanwlad yw dathliad blynyddol Cymanwlad y Cenhedloedd a gynhelir ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth, gyda gwasanaeth aml-ffydd yn Abaty Westminster sy’n cael ei fynychu fel arfer gan y Frenhines Elizabeth II, Pennaeth y Gymanwlad, ynghyd ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad ac Uwch-gomisiynwyr y Gymanwlad yn Llundain.

Mae’r Frenhines yn cyflwyno araith i’r Gymanwlad a ddarlledir ar draws y byd, sydd i’w gweld yma http://www.youtube.com/watch?v=rSP2loYK4_o

Nod dathliad Diwrnod y Gymanwlad yw hybu dealltwriaeth ar faterion byd-eang, cydweithrediad rhyngwladol a gwaith y Gymanwlad i wella bywydau ei 2 biliwn o ddinasyddion. Thema’r Gymanwlad eleni oedd ‘Gwyddoniaeth, Technoleg a Chymdeithas’.

Roedd aelodau’r Prif Gyngor, Amelia Wingfield a Daniel Harper yno i weld y cyfan.