Beth yw eich barn am newid yn yr hinsawdd?

 

Ydych chi’n iau na 25?

Oes diddordeb gennych chi yn y newid yn yr hinsawdd?

Ymunwch â’r ddadl ar y newid yn yr hinsawdd a dweud eich dweud – rydym am glywed gennych!

Mae Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru wedi sefydlu grŵp ar Facebook o’r enw ‘Ein Dyfodol, Ein Llais’ 


Nod y grŵp hwn yw annog pobl ifanc yng Nghymru i:

- Ddweud eu barn am y newid yn yr hinsawdd wrth yr Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd;

- Trafod materion y newid yn yr hinsawdd a rhannu gwybodaeth am brosiectau perthnasol ledled Cymru;

- Mynegi eu barn am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddod â phobl o ystod eang o sefydliadau at ei gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys pobl o fyd gwleidyddiaeth, busnes, o awdurdodau lleol, o fyd masnach ac eraill. Cadeirydd y Comisiwn yw Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, ac mae llawer o bobl ddylanwadol yn cymryd rhan. Diben y Comisiwn yw rhoi arweiniad ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, a chytuno ar yr hyn sydd angen ei wneud yng Nghymru.