Hia
Fy enw i yw Christina a fi yw Cydlynydd ESF Draig Ffynci. Yr ESF yw’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Fy mhrif rôl yw gwneud yn siŵr bod systemau adrodd a monitro yn eu lle fel bod darparwyr cyllid yn gwybod sut mae Draig Ffynci’n gwario arian ESF a pha effaith a gaiff y prosiectau ar y bobl ifanc ry’n ni’n gweithio gyda nhw. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r tîm Datblygu, yn darparu cymorth gweinyddol ac yn trefnu digwyddiadau o fewn prosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr ESF.
Rwyf hefyd yn gyfrifol am reoli’r lleoliadau profiad gwaith a gynigir gan Draig Ffynci a threfnu rhaglenni hyfforddiant staff.
Yn fy amser sbâr rwy’n mwynhau ysgrifennu creadigol, nofio a helpu gyda fy Nghlwb Ffermwyr Ifanc lleol.
Ebost: christina@funkydragon.org
Ffon: 01792 450000
