Gweithiwr Datblygu - Tîm Bobl Ifanc

 

Hia!

Fy enw i yw Kelly ac rwy’n rhan o Dîm Datblygu De Cymru - Pobl Ifanc.

Fel rhan o’r tim, fy rol i yw cefnogi a gweithio gydag aelodau’r Prif Gyngor, darparu gweithdai ABCh (Cyfnod Allweddol 3 & 4) ar y thema Dinasyddiaeth Weithgar, helpu i drefnu penwythnosau preswyl, rhedeg gweithdai ar gyfer prosiectau a sefydliadau, gweithio gyda NEETs (pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), gweithio gyda fy fforymau penodedig a gwneud unrhyw beth arall sydd ei angen!

Fi yw’r gweithiwr allweddol ar gyfer yr awdurdodau lleol canlynol yn Ne Cymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd a Sir Fynwy. Os ydych chi’n gweithio neu’n byw yn yr ardaloedd hyn, mae croeso ichi gysylltu gyda mi ar y manylion cyswllt isod.

Ar wahân i fy ngwaith, rwy’n mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau, dawnsio i gerddoriaeth ‘cheesy’ a bwyta hufen iâ!

Kelly Bending – kelly@funkydragon.org
01792 450000
07711 950456

Kelly