Gweithiwr Datblygu - Tîm Plant

 

Helo,

Fi yw Arwyn, sef Gweithiwr Datblygu Plant Gogledd Cymru ac rwy’n gweithio o’r swyddfa yn Wrecsam ac o gartref rywfaint hefyd (sy’n golygu bod bŵt fy nghar yn llawn o stwff Draig Ffynci trwy’r adeg!)

Rwyf i ac Andrea’n gyfrifol am gasglu barn rhai 7 - 10 oed a cheisio cael pobl ifanc i gymryd rhan. Ry’n ni’n dau’n brysur ar hyn o bryd gyda’r prosiect ‘Plant fel Ymchwilwyr’ ac ry’n ni’n edrych ymlaen at ein digwyddiad cyntaf ar gyfer plant ym mis Chwefror 2009.

Pan nad ydw i’n gweithio, rwy’n mwynhau mynd ar y rhyngrwyd, cefnogi Everton, chwarae rygbi i Glwb Rygbi Benllech, ac yn ddiweddar rwyf wedi dechrau chwarae o gwmpas mewn cychod (pan fydd fy ffrind yn gadael imi wneud hynny!)

Wela’ i chi o gwmpas

Arwyn

Ebost: arwyn@funkydragon.org
Ffon: 01978 262370