Rheolwr Datblygu Gogledd Cymru

 

Hia, fi yw Kirsten a fi yw Rheolwr Datblygu Gogledd Cymru.

Rwy’n gweithio ymhob sir ar draws Gogledd Cymru i gynorthwyo aelodau o Brif Gyngor Draig Ffynci a gwneud yn siŵr eu bod yn cael cyfle i leisio barn.

Mae hynny’n golygu cynorthwyo pobl ifanc i gyflwyno eu barn i Swyddogion Cynulliad Cymru, gweithio gyda phobl ifanc i drefnu penwythnosau preswyl, cyflwyno gweithdai, cwrdd â gweithwyr proffesiynol a gweithio gyda fforymau ieuenctid er mwyn cefnogi a datblygu’n perthynas gyda nhw.

Pan nad ydw i’n gweithio rwy’n mwynhau paentio, marchogaeth a mynd i’r theatr.

Cyswllt: kirsten@funkydragon.org

01978 262370

Kirsten

Kirsten