Rheolwr Cyfathrebu

 

Melvyn Williams

Fi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod gymaint o bobl â phosib wedi clywed am yr hyn ry’n ni’n ei wneud. Mae hynny’n golygu cael gwybodaeth allan i bobl trwy’r wefan, cynadleddau, ymweld ag ysgolion, clybiau ieuenctid ac ati. Dwi ddim yn gwneud hyn i gyd fy hun, ond fi sy’n gwneud y gwaith trefnu.

Ysgrifennais strategaeth Draig Ffynci ar gyfer cyfathrebu/y cyfryngau. Yn y bôn mae’n dweud pwy ddylai wybod amdanon ni a sut ddylen ni fynd ati i ddweud wrthyn nhw. Dros y blynyddoedd nesaf bydd llawer mwy o fideos yn ymddangos ar y wefan. Bydd y rhain gan Aelodau’r Cynulliad, aelodau’r Prif Gyngor a chymaint o grwpiau lleol â phosib.

Os hoffech chi ymddangos ar y safle a dweud wrthon ni am eich grŵp mewn ffordd ddiddorol ac addysgiadol mewn un munud, cysylltwch â mi ac mi ddof i’ch gweld.

Cyswllt:melvyn@funkydragon.org
01792 450001
07966 260744

Melvyn

Melvyn