Rhodri Meilir yn cael ‘Teulu’ Ffynci
Mae Draig Ffynci’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi’n mabwysiadu gan Rhodri Meilir, sydd wedi cytuno i fod yn llysgennad byd-eang inni. Mae Rhodri’n ymddangos fel y lletwyr Alfie Butts yn ‘My Family’, sef y gyfres gomedi fwyaf poblogaidd ym Mhrydain ar hyn o bryd, ac roedd wrth ei fodd yn cael y gwahoddiad.
“Mae’n anrhydedd. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan bawb yn Draig Ffynci’n wych, ac, ar nodyn mwy hunanol, gan nad ydw i’n byw yng Nghymru erbyn hyn, mae’n braf cael bod yn rhan o rywbeth da nôl gartre”.
Draig Ffynci yw’r Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru. Y llynedd, cyflwynon ni ddau adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag ysgolion er mwyn darparu gwersi ABCh.
Rhoddodd Rhodri beth o’i amser prin, y diwrnod cyn iddo ymddangos ar raglen Uned 5 ar S4C, i ddod mewn a recordio ychydig o negeseuon ar gyfer ein gwefan. Ailwampiodd ein datganiad cenhedaeth, gwnaeth gyfweliad byr a hyd yn oed y trosleisio ar gyfer y DVD o’n CCB mwyaf diweddar. Mae’r rhain i gyd ar ein gwefan: http://www.funkydragon.org/cy/fe/page.asp?n1=2
http://www.funkydragon.org/cy/fe/page.asp?n1=1437&n2=1963
Roedd Rhodri’n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd gwaith Draig Ffynci.
“Dwi’n credu bod hi’n bwysig iawn i bobl ifanc gymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir oherwydd, yn amlach na pheidio, maen nhw’n benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae pob un ohonom yn wahanol ac mae pob un yn gyfartal, beth bynnag yw ei oedran”.
Mae Draig Ffynci’n cael ei redeg gan, ac ar gyfer pobl ifanc. Mae’r berthynas sydd gan y sefydliad gyda’r llywodraeth yn golygu y gall pobl ifanc siarad yn uniongyrchol â gweinidogion a swyddogion am unrhyw faterion sy’n eu poeni.
Mae’r trefniant yn un unigryw sy’n caniatáu mynediad uniongyrchol i galon y llywodraeth. Draig Ffynci yw pen main lletem fawr iawn sy’n cynnwys fforymau lleol, cynghorau ysgol a sefydliadau annibynnol. Mae’r rhain i gyd yn bwydo eu safbwyntiau i Draig Ffynci trwy gyfrwng y Prif Gyngor, sy’n cynnwys 100 o bobl ifanc, sef ateb y to ifanc i Aelodau’r Cynulliad yng Nghymru. Am dipyn o hwyl, gofynnon ni i Rhodri beth fyddai e’n ei wneud petai’n rheoli Cymru.
“Mi faswn i’n cael pot mawr o arian ac yn prynu tŷ i bawb yng Nghymru ac yna’n ceisio dileu tlodi, ac yna’n rhoi’r gweddill i Gymdeithas Bêl-droed Cymru”.
