Consortiwm Cyfranogiad

 


Mae’r Consortiwm Cyfranogiad yn gorff strategol aml-asiantaeth sy’n gweithio ar lefel genedlaethol i ddatblygu cynhwysedd ac ymarfer yn nhermau cyfranogiad plant a phobl ifanc (0-25 oed) yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.  Sefydlwyd y Consortiwm yn 2003 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’r aelodaeth bresennol yn cynnwys:

Rhwydwaith y Sector Croenddu Gwirfoddol, Rhwydwaith Ieuenctid Croenddu Caerdydd, Plant yng Nghymru, CWVYS, Draig Ffynci, Cydlynwyr y Fframwaith  Partneriaeth, NSPCC, Tros Gynnal, Voices from Care, Achub y Plant, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Canllaw, Adran Cyfranogiad Ieuenctid a Disgyblion (ar ran LlCC), Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Gweithwyr Fforymau Ieuenctid, Youthlink Cymru, Barnardos, CAFCASS, CYPI (Menter Pobl Ifanc Carnegie), CEWC.

Mae sefydlu consortiwm ar gyfer datblygu cyfranogiad yn sicrhau cydlyniad a rhannu arfer dda, yn osgoi dyblygu ac yn cydnabod amrywiaeth.

Mae gan y Consortiwm Cyfranogiad nifer o Is-grwpiau sy’n canolbwyntio ar agweddau gwahanol o gyfranogiad plant a phobl ifanc.  Mae prif flaenoriaethau’r Consortiwm yn cynnwys:

  • Cyfranogiad ym myd addysg
  • Cyfranogiad rhai 0 – 10 oed
  • Hyfforddiant mewn cyfranogiad
  • Gosod safonau a chasglu tystiolaeth ar fuddiannau cyfranogiad

Mae Cadeirydd y Consortiwm Cyfranogiad yn aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Gyfranogiad (LlCC) ac mae’n bwydo mewn i’r penderfyniadau strategaethol a wneir ynghylch cyfranogiad plant a phobl ifanc ar lefel uwch.

Derbyniodd y Consortiwm Cyfranogiad arian gan Gynllun Grantiau LlCC ar gyfer Plant a Theuluoedd a’r Gronfa Ewropeaidd i sefydlu Uned Cyfranogiad yn 2004.

Mae’n bwysig cofio bod y Consortiwm Cyfranogiad a’r Uned Cyfranogiad yn cydweithio ar lefel genedlaethol.  Maent yn gweithio’n agos gyda’r Prosiect Cyfranogiad sy’n gweithredu o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru a chydag ymarferwyr trwy gyfrwng y Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad yng Nghymru a sefydlwyd yn ddiweddar ac sydd wedi’i leoli gyda Plant yng Nghymru.

Sorry, your browser doesn't support the embedding of multimedia.

Mae’r dogfennau sydd ar gael i’w llwytho i lawr isod yn dod o Adroddiad y Consortiwm Cyfranogiad.  Mae pob adran wedi’i rhannu’n faes arbenigol sy’n dangos beth mae pob sefydliad yn ei gynnig yn y maes arbenigol hwnnw.  Mae’r adroddiad cyfan ar gael i’w lwytho i lawr hefyd.