Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid

 


Mae’r Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru 2007 yn ddatganiad sy’n anelu at:

  • Sefydlu prif bwrpasau gwaith ieuenctid yng Nghymru
  • Rhoi gwybod i’r rhai sydd y tu allan i’r gwasanaeth am y pwrpasau hyn
  • Darparu dealltwriaeth gyffredin o’r pwrpasau hyn
  • Darparu fframwaith ar gyfer datblygu arfer a phennu blaenoriaethau
  • Creu dull o fesur y cynnydd a wneir tuag at gyflawni’r pwrpasau hyn.

NID bwriad y Datganiad yw:

  • Arwain at un cwricwlwm rhagnodol ac anhyblyg a fyddai’n rhwystro amrywiaeth neu’n cyfyngu ar fentergarwch

Galli lawrlwytho’r Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru isod.