Safonau Cyfranogiad

 


Bu datblygu set o Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru yn flaenoriaeth ar gyfer yr Uned Cyfranogiad, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Consortium Cyfranogiad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, ymarferwyr a phlant a phobl ifanc ar draws Cymru.

O’r ‘egwyddorion craidd’ sydd wedi’u cytuno’n gyffredinol ar gyfer cyfranogiad, mae’r Consortiwm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc a’r Uned Cyfranogiad wedi datblygu Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc h.y. safonau ansawdd ar gyfer archwilio ac asesu arferion cyfranogiad.  Mae yna saith o Safonau Cenedlaethol.

Ymgynghorwyd gyda phobl ifanc ynghylch y Safonau Cenedlaethol ac maent wedi’u cadarnhau gan bobl ifanc Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru.  Yn ystod eu CCB yn 2005, pleidleisiodd Draig Ffynci gyda mwyafrif llethol o blaid y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.  Yn 2006, treialodd Draig Ffynci nhw, ochr yn ochr â phum grŵp arall o blant a phobl ifanc ar draws Cymru.  Cafodd y ddogfen Safonau derfynol ei chadarnhau gan holl aelodau Is-bwyllgor Cabinet Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2006.


Lansiwyd y Safonau Cenedlaethol gan Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, yn ystod Seminar Safonau Cenedlaethol yr Uned Cyfranogiad ar 25ain Ionawr 2007.  Daeth y Seminar ag oedolion a phobl ifanc ynghyd o brosiectau lleol a chenedlaethol, gyda phob un â rhyw gysylltiad  gyda datblygiad y Safonau Cenedlaethol.  Y bobl ifanc fu wrthi’n treialu’r Safonau oedd yn rhedeg y sesiynau.

Fel ffordd o ddatblygu arfer dda ymhellach, mae’r Consortiwm Cyfranogiad a’r Uned Cyfranogiad am archwilio cynlluniau sicrwydd ansawdd neu farc barcud gyda’r bwriad o sefydlu marc barcud cenedlaethol yn gysylltiedig â Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.  Mae marc barcud yn symbol cydnabyddedig sy’n gwarantu bod set arbennig o safonau wedi’u cyrraedd, er enghraifft, Buddsoddwyr Mewn Pobl neu farciau barcud Sgiliau Sylfaenol.

Mae gweithio tuag at farc barcud yn golygu datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu ac asesu yn erbyn y Safonau.  Mae hefyd yn golygu treialu’r ffordd y gallai hyn weithio ar draws Cymru.  Y cam cyntaf yw codi ymwybyddiaeth o’r Safonau ac annog sefydliadau i’w defnyddio ar gyfer hunan asesu eu harferion presennol.

Mae Safonau Cenedlaethol Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ar gael i’w llwytho i lawr ar waelod y dudalen hon.