Beth yw’r Uned Cyfranogaeth?
Mae’r Uned Cyfranogaeth yn anelu at gynyddu a hyrwyddo cyfranogaeth lawn a gweithgar gan blant a phobl ifanc (0-25) mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Rydym hefyd eisiau newid barn oedolion i wneud e’n haws i blant a phobl ifanc gyfranogi. Mae Achub y Plant yn cynnal yr Uned Cyfranogaeth ar ran Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru. Mae’r Uned yna yn gweithredu ar gamau ar ran y Consortiwm.
Pwy yw’r Uned Cyfranogaeth a lle maent yn gweithio?
Mae’r Uned yn cynnwys 6 aelod o staff:
- Anna Skeels – Rheolwr Uned Cyfranogi
- Meredid Lewis – Gweithiwr Datblygu
- Rebecca Horder - Gweithiwr Datblygu
- John Davies – Gweithiwr Datblygu Cynorthwyol
- Caroline Dean - Gweithiwr Datblygu Cynorthwyol
- Stacey Jones - Gweinyddwr
- Annette Boyle – Swyddog Cyllid a Gweinyddu
Rydym wedi ein lleoli yn swyddfa Achub y Plant yng Nghaerdydd. Achub y Plant sydd yn rheoli ni, talu ein cyflog a rhoi swyddfa i ni am ddim. Rydym hefyd yn cael ein ariannu gan Grant Cymorth i Blant a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Gwirfoddolwyr y Mileniwm a Prosiect ‘Gwneud y Cysylltiadau’.
Rydym yn gweithio ledled Cymru -er enghraifft, rydym wedi cynnal gweithdai gyda phobl ifanc yn Sir Benfro, Ceredigion, Wrexham a Chonwy.
Beth mae’r Uned Cyfranogaeth yn ei wneud? Daw meysydd gwaith yr Uned Cyfranogaeth dan 6 o themâu:
1. Safonau a dyfarnu Nodau Barcud
2. Hyfforddiant
3. Gwybodaeth ac Arfer Da
4. Cynnwys Plant a Phobl Ifanc
5. Cynhwysiant
6. Monitro, Gwerthuso ac Asesu
Cliciwch y cysylltau ar y ddewislen ar y chwith i ddarganfod mwy am yr Uned Gyfranogiad – beth yw hi a sut y gallwch chithau ddod yn rhan.
Cysylltu - participationunit@savethechildren.org.uk
Rhif ffon - 02920 396 838
