Mae’r Consortiwm Cyfranogiad yn gorff strategol aml-asiantaeth sy’n gweithio ar lefel genedlaethol i ddatblygu cynhwysedd ac ymarfer yn nhermau cyfranogiad plant a phobl ifanc (0-25 oed) yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Sefydlwyd y Consortiwm yn 2003 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’r aelodaeth bresennol yn cynnwys:
Rhwydwaith y Sector Croenddu Gwirfoddol, Rhwydwaith Ieuenctid Croenddu Caerdydd, Plant yng Nghymru, CWVYS, Draig Ffynci, Cydlynwyr y Fframwaith Partneriaeth, NSPCC, Tros Gynnal, Voices from Care, Achub y Plant, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Canllaw, Adran Cyfranogiad Ieuenctid a Disgyblion (ar ran LlCC), Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Gweithwyr Fforymau Ieuenctid, Youthlink Cymru, Barnardos, CAFCASS, CYPI (Menter Pobl Ifanc Carnegie), CEWC.
Mae sefydlu consortiwm ar gyfer datblygu cyfranogiad yn sicrhau cydlyniad a rhannu arfer dda, yn osgoi dyblygu ac yn cydnabod amrywiaeth.
Mae gan y Consortiwm Cyfranogiad nifer o Is-grwpiau sy’n canolbwyntio ar agweddau gwahanol o gyfranogiad plant a phobl ifanc. Mae prif flaenoriaethau’r Consortiwm yn cynnwys:
- Cyfranogiad ym myd addysg
- Cyfranogiad rhai 0 – 10 oed
- Hyfforddiant mewn cyfranogiad
- Gosod safonau a chasglu tystiolaeth ar fuddiannau cyfranogiad
Mae Cadeirydd y Consortiwm Cyfranogiad yn aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Gyfranogiad (LlCC) ac mae’n bwydo mewn i’r penderfyniadau strategaethol a wneir ynghylch cyfranogiad plant a phobl ifanc ar lefel uwch.
Derbyniodd y Consortiwm Cyfranogiad arian gan Gynllun Grantiau LlCC ar gyfer Plant a Theuluoedd a’r Gronfa Ewropeaidd i sefydlu Uned Cyfranogiad yn 2004.
Mae’n bwysig cofio bod y Consortiwm Cyfranogiad a’r Uned Cyfranogiad yn cydweithio ar lefel genedlaethol. Maent yn gweithio’n agos gyda’r Prosiect Cyfranogiad sy’n gweithredu o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru a chydag ymarferwyr trwy gyfrwng y Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad yng Nghymru a sefydlwyd yn ddiweddar ac sydd wedi’i leoli gyda Plant yng Nghymru.
Mae’r dogfennau sydd ar gael i’w llwytho i lawr isod yn dod o Adroddiad y Consortiwm Cyfranogiad. Mae pob adran wedi’i rhannu’n faes arbenigol sy’n dangos beth mae pob sefydliad yn ei gynnig yn y maes arbenigol hwnnw. Mae’r adroddiad cyfan ar gael i’w lwytho i lawr hefyd.
