Yng Nghymru, mae’r agenda o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc wedi datblygu mewn ffordd arbennig ac unigryw.
Mae’r datblygiadau hyn wedi’u gosod o fewn fframwaith ymroddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) sydd wedi’i fabwysiadu’n swyddogol erbyn hyn fel sylfaen ar gyfer ei holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc (Hawl i Weithredu, LlCC, 2004)
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymroddiad tuag at ddatblygu cyfranogiad plant a phobl ifanc yn rhai o’i dogfennau polisi, yn arbennig y Fframwaith ar gyfer Partneriaeth (2002) ac Ymestyn Hawliau (2001).
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi’r broses o ddatblygu cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:
- Sefydlu swydd Comisiynydd Plant i ddadlau’n annibynnol dros hawliau plant a phobl ifanc.
- Sefydlu Cynulliad Plant a Phobl Ifanc – Y Ddraig Ffynci
- Cydweithio gyda Chynghorau Lleol er mwyn sefydlu Fframwaith Plant a Phobl Ifanc
- Darparu nawdd ar gyfer Awdurdodau Lleol yn unswydd er mwyn datblygu strategaethau cyfranogiad, gan gynnwys Fforymau Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11 - 25 oed.
- Gwneud hi’n orfodol i bob ysgol gynradd, uwchradd ac addysg arbennig yng Nghymru i sefydlu Cyngor Ysgol (cyswllt gwefan ar waelod y dudalen).
Sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) grŵp tasgau er mwyn edrych ar strwythur sy’n cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau ledled Cymru. Arweiniodd y grŵp tasgau at ddechrau Consortiwm Cyfranogiad ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru’n cael cyfranogi’n llawn.
Derbyniodd y Consortiwm Cyfranogiad nawdd gan ‘Gynllun Grantiau Plant a Theuluoedd’ y Cynulliad a’r Gronfa Ewropeaidd er mwyn sefydlu Uned Gyfranogi yn 2004. Mae’r Consortiwm Cyfranogiad yn llywio gwaith yr Uned Gyfranogi, sydd dan arweiniad Cronfa Achub y Plant. Mae’r Uned Gyfranogi’n cefnogi datblygiad strategol cyfranogiad yng Nghymru.
Mae’r Consortiwm Cyfranogiad a’r Uned Gyfranogi’n cydweithio’n glos ar lefel genedlaethol gyda Phrosiect Cyfranogiad Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriad y prosiect hwn yw cynnwys plant a phobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys datblygu polisïau ac ymgynghoriad. Mae hefyd yn ceisio annog cyfranogiad mewn sefydliadau statudol mawr eraill.
Mae’r Consortiwm Cyfranogiad, yr Uned Gyfranogi a’r Prosiect Cyfranogiad oll yn cydweithio’n agos gyda’r Ddraig Ffynci.
Mae’r broses gyfranogi yng Nghymru yn amrywiol ac yn parhau i ddatblygu a gallwch ddod i wybod mwy trwy edrych ar wefan y Cynulliad.
Linciau Defnyddiol
Bydd pob dolen yn ddangos mewn ffenest pop-up.
- Gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae’r wefan hon yn cynnwys popeth fyddwch chi am wybod am y Cynulliad!
