Cyflwyniad i’r pwyllgor

 

Ben, Bex and Chris in the hearing
Ben, Bex and Chris in the hearing

Ar Mehefin 11 cyflwynodd Rebecca Harries, Chris Gibbons a Ben Sawyers o Draig Ffynci yr adroddiad Ein Hawliau Ni Ein Stori Ni i bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cymerodd yr adroddiad ddwy flynedd i’w gwblhau ac fe’i hysgrifennwyd gan bobl ifanc gyda help staff Draig Ffynci.

Roedd Genefa’n fôr o gefnogwyr pêl-droed o bob gwlad ac roedd hynny’n gefndir lliwgar ar gyfer yr adborth o’r adroddiad hawliau plant mwyaf erioed yng Nghymru. Mae’r adborth yn digwydd bob pum mlynedd ac mae’n benllanw proses fonitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Roedd y pwyllgor yn eistedd mewn dau wrandawiad; un ffurfiol ac un anffurfiol ond roedd y ddau’n syndod o ffurfiol mewn gwirionedd. Rhoddodd Rebecca a Ben adborth i ddechrau, gan roi manylion canlyniadau ein harolwg ar addysg, iechyd, cyfranogiad a gwybodaeth.

Rhoddodd Chris adborth yn ystod y sesiwn anffurfiol, dros ginio, ynghyd â chynrychiolwyr o Loegr. Roedd y gwrandawiad yn fwy cymysg na’r disgwyl o ran nifer y sefydliadau oedd yn bresennol gan adael llai o amser i’r bobl ifanc fwydo nôl nag y gobeithiwyd.

Dwedodd Rebecca “Ro’n i’n meddwl y byddai’n gogwyddo mwy tuag y bobl ifanc yn hytrach na’r gweithwyr. Ond roedd hi’n cŵl bod y gweithwyr yno hefyd oherwydd roeddech chi’n cael gweld faint o waith roedden nhw wedi gwneud ar gyfer eu hadroddiadau.”

I Chris, bu’n fwy nag adroddiad yn unig – “mae cymryd rhan o’r cychwyn cyntaf wedi newid fi fel person”

Roedd Ben hyd yn oed yn fwy dramatig a siaradodd am y broses gyfan pan ddwedodd “mae’n lot o waith ond mae’n werth e’” ac am y gwrandawiad roedd ganddo hyn i’w ddweud, “ry’n ni wedi gwneud y gwaith i gyd, dyma’n cyfle ni, mewn â ni a gwneud ein gore.”

Mae’r adroddiad yn ffrwyth dwy flynedd o waith caled gan rai o bobl ifanc y pwyllgor llywio ac maen nhw’n falch iawn ohono. Mae’r adroddiad yn gamp sylweddol ynddo’i hun ac mae’n fwy o gamp fyth o ystyried bod y bobl ifanc yn dysgu’r broses wrth fynd yn eu blaenau.

Dysgwyd nifer o wersi a bydd y bobl ifanc yn gallu pasio eu gwybodaeth ymlaen i’r rhai sy’n ysgrifennu’r adroddiad nesaf. Y peth pwysig yw bod Draig Ffynci wedi gallu cyflwyno set o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi ennyn ymateb ac sy’n cael eu gweithredu. Lluniwyd yr argymhellion hyn gan bobl ifanc ar sail tystiolaeth ddibynadwy gan eu cyfoedion ymhob rhan o Gymru. Mae barn Cymry ifanc yn cael ei glywed ar y lefelau uchaf posib erbyn hyn, diolch i’n taith i Genefa a’r holl waith caled a wnaed gan y grŵp llywio dros y ddwy flynedd diwethaf.